Cymdeithas Llywelyn

Cymdeithas Llywelyn Logo

Who are we?

Cymdeithas Llywelyn is the Welsh learners’ society here in Bangor Students’ Union. Wherever you’re from, Bangor is a brilliant place to come and learn and enjoy the Welsh language. The University offers Welsh courses that you can follow as part of your course or as an addition to your degree. There are also some outside organisations that offer lessons or you can learn on-line. And of course Cymdeithas Llywelyn offers support as you learn.

What do we do?

Cymdeithas Llywelyn is a society within UMCB which is a community of Welsh speakers (learners, fluent and first language speakers) in Bangor University and the Union. UMCB was founded 30 years ago to represent the Welsh-speaking community. It joined with the Students’ Union in 1996 and it’s still going strong. The purpose of Cymdeithas Llywelyn is to represent learners within UMCB.

What can we offer?

Why learn Welsh?

Sometimes people don’t see the point of learning Welsh but we disagree. The Welsh language is growing ever stronger, and North Wales is one of the heartlands of the Welsh language with a large number of the population able to speak Welsh. The ability to speak Welsh is to your advantage when looking for a job, especially if you are thinking of looking for a job in Wales after graduating. The Welsh language is one of the oldest languages in Europe and by learning it you will have access to a culture that is constantly growing, developing and maturing.  One of the best things about learning Welsh is the feeling of accomplishment, meeting new people and understanding Welsh language TV and music. And if you get a part time job to fund your beer budget, won’t speaking a bit of the local language help? Overall learning Welsh opens up so many opportunities you would be mad not to!

The Welsh language

Welsh (Cymraeg) is descended from the ancient British Celtic language. This means that the language predates the Normans, Saxons and even the Romans. Irish, Breton, Cornish, Manx and Scottish Gaelic are all part of this original Celtic family. The Welsh language has a massive history of literature and poetry. This tradition continues today with Eisteddfodau (Welsh language festivals and competitions) and a growing music, poetry and literature scene. Currently Welsh is the most successful out of all the Celtic languages, surviving into the 21st century and now growing strong. In nearly all schools in Wales, the Welsh language is taught as a second language or as a first. In 2001 the national Census showed that the total number of people who could speak and read Welsh was 16.3% of the total 3 million population. This was a dramatic improvement from 13.6% in 1991. At least 28% of the population had some sort of command of the language, with the number of speakers at 20.5%. A large part of the increase in the number of people being able to speak or understand Welsh is down to adult Welsh learners. There are an estimated 39,000 adults in Wales starting courses in the language every year. The future of the language is bright and with more people learning, it can only grow stronger!

Cymdeithas Llywelyn website >



Cymdeithas Llywelyn

Logo Cymdeithas Llywelyn

Pwy ydyn ni?

Cymdeithas Llywelyn yw cymdeithas dysgwyr Undeb Myfyrwyr Bangor. Mae Bangor yn lle rhagorol i bobl o bob cefndir ddod i ddysgu a mwynhau’r iaith Gymraeg. Mae’r Brifysgol yn cynnig modiwlau dysgu Cymraeg (Cwrs WLPAN) i’w dilyn fel rhan o gwrs gradd neu fel cwrs ychwanegol. Mae yna hefyd fudiadau allanol sy’n cynnig cyrsiau neu fe ellir dysgu ar-lein. Ac wrth gwrs mae Cymdeithas Llywelyn yn cynnig cefnogaeth.

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Mae Cymdeithas Llywelyn yn gymdeithas o fewn Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) sydd yn gymuned o siaradwyr Cymraeg (dysgwyr, rhugl ac iaith gyntaf) ym Mhrifysgol Bangor a’r Undeb. Sefydlwyd UMCB 30 mlynedd yn ôl i gynrychioli’r gymuned fyfyrwyr Cymraeg ac mae’n dal i fynd yn gryf ac wedi’i ymgysylltu ag Undeb y Myfyrwyr ers 1996. Swyddogaeth Cymdeithas Llywelyn yw cefnogi a chynrychioli dysgwyr Cymraeg o fewn i UMCB.

Beth allwn ni ei gynnig?

Pam dysgu Cymraeg?

Weithiau mae pobl yn amau’r rhesymau dros ddysgu Cymraeg; mae rhai yn dweud nad oes yna unrhyw ddiben. Rydym yn anghytuno’n llwyr. Mae’r iaith Gymraeg ar ei thwf ac yn ffynnu yn y Gogledd gyda nifer fawr o boblogaeth Gwynedd yn siarad Cymraeg. Mae gallu defnyddio iaith arall bob amser o fantais mewn gyrfa, yn arbennig os ydych yn ystyried aros yng Nghymru ar ôl i chi raddio. Mae’r iaith Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop a bydd ei dysgu yn rhoi mynediad i chi i ddiwylliant sy’n parhau i dyfu, datblygu ac aeddfedu. Un o’r pethau gorau am ddysgu Cymraeg yw’r teimlad o gyflawni rhywbeth, cwrdd â phobl newydd a deall teledu a cherddoriaeth Gymraeg. Ac os wnewch chi gael swydd ran-amser i geisio ychwanegu at eich incwm prin, mae siarad yr iaith frodorol yn siŵr o helpu. Yn gyffredinol, mae dysgu Cymraeg yn agor gymaint o gyfleoedd fe fyddech yn wallgof i beidio â gwneud!

Yr iaith Gymraeg

Mae’r Gymraeg yn deillio o’r iaith Geltaidd Brydeinig, Brythoneg. Mae’r iaith felly’n hyn na goresgyniad y Normaniaid, y Sacsoniaid a hyd yn oed y Rhufeiniaid. Mae Gwyddeleg, Llydaweg, Cernyweg, Manaweg a Gaeleg yr Alban i gyd yn perthyn i’r un teulu ieithyddol Celtaidd. Mae gan y Gymraeg hanes cyfoethog o lenyddiaeth a barddoniaeth. Mae’r traddodiad yn parhau heddiw gyda’r Eisteddfodau a thraddodiad o gerddoriaeth, barddoniaeth a llenyddiaeth sy’n parhau i dyfu. Ar hyn o bryd y Gymraeg yw’r cryfaf o’r ieithoedd Celtaidd — mae wedi goroesi i’r unfed ganrif ar hugain ac yn tyfu’n gryfach. Mae’r iaith Gymraeg yn cael ei dysgu fel ail iaith neu iaith gyntaf ym mron i bob ysgol yng Nghymru. Yn 2001 dangosodd y Cyfrifiad Cenedlaethol fod y cyfanswm o bobl sy’n gallu siarad a darllen y Gymraeg yn 16.3% o gyfanswm y boblogaeth o 3 miliwn. Roedd hyn yn welliant dramatig ar 13.6% yn 1991. Roedd gan o leiaf 28% o’r boblogaeth ryw fath o grap ar yr iaith gyda’r nifer o siaradwyr oddeutu 20.5%. Oedolion sy’n dysgu Cymraeg sy’n gyfrifol am ran fawr o’r cynnydd yn y nifer o bobl sy’n gallu siarad neu ddeall Cymraeg. Mae yna oddeutu 39,000 o oedolion yng Nghymru’n dilyn cyrsiau i ddysgu’r iaith bob blwyddyn. Mae dyfodol llewyrchus i’r iaith a chyda mwy o bobl yn ei dysgu mae’n siŵr o gryfhau ymhellach!

Gwefan Cymdeithas Llywelyn >