UMCB Activities

Clwb Cymru LogoClwb Cymru

This is one of UMCB’s main nights. It’s a Welsh night that is held every other week during term time. With a fun filled atmosphere and silly themes it’s a very popular night. It’s not difficult to guess what the theme sometimes when Upper Bangor is full of students in their pyjamas! Come and enjoy a great night with a mixture of Welsh and English music there’s something for everyone. If you’re not familiar with the Welsh music scene come along for a taster.

Y Cymric

Y Cymric arrange social events for UMCB members. The organisers have a few things up their sleeve including some pub crawls, some events in the Globe and the Little Village Trip. This is a famous trip to a mystery village, everyone enjoys themselves and the locals get a bit of a shock! The Cymric organisers also help with arranging the annual rugby trip to a city here Wales are playing away during the Six Nations tournament. This year we will be going to Ireland.

Football Team

UMCB’s Football Team play in the North Gwynedd and Anglesey League and they are sponsored faithfully by the Globe. They also get plenty of chances to play against the university’s team.

Choir

UMCB’s Choir compete and take part in a few events and competitions. The Inter-Collegiate Eisteddfod is the highlight of the year for them. It’s a great chance to socialise and enjoy a bit of signing.

Cymdeithas Llywelyn

UMCB is glad to have Welsh learners as some of its members. They have their own society within UMCB, Cymdeithas Llywelyn, which aims to promote learning and support people as they learn Welsh. The society can offer information about lessons and has a small collection of books suitable for learners. Members can borrow these free of charge. The society offers chances for members to practice together in social situations and bring Welsh learners and fluent speakers together. For more information or to join email llywelyn@undeb.bangor.ac.uk or call in to see Bethan (UMCB President).

Other team sports

It’s very easy for UMCB to start a new sports team. There has been interest in starting a men’s rugby team and women’s football and rygby teams. If you would like UMCB to set up a new team in any sport come and see the UMCB President and we’ll see what we can do.

Y Ddraenen

This is the Welsh University newspaper that is released about four times a year. This year Gwennan Evans is the editor.

FfORC (Welsh postgraduate students’ society)

This group was formed as an official society within the Union in Autumn 2006. Their main aim is to provide more opportunities for Welsh medium post-graduate students to meet up and socialise with students from ther departments. They are a very busy society, over the last year they have been on a trip to Ireland, held some quizzes and arranged a trip to Bardsey Island. They also meet in the Union every Thursday at 1:00pm for dinner.

Go to their myspace page for their latest news.



Gweithgareddau UMCB

Logo Clwb CymruClwb Cymru

Dyma un o brif nosweithiau UMCB. Mae’n noson Gymreig sy’n cael ei chynnal bob yn ail nos Iau yn ystod y tymor. Gydag awyrgylch hwyliog a themâu gwirion mae’r noson yma’n boblogaidd iawn efo myfyrwyr Bangor. Mae’n hawdd dyfalu beth yw’r thema ambell noson pan fo Bangor Uchaf yn llawn Cymry mewn ‘gwisg broffesiynol’ neu ‘pyjamas’! Dewch i fwynhau noson wych gyda chymysgedd dda o gerddoriaeth Gymraeg, Cymreig a Saesneg, mae rhywbeth at ddant pawb. Os nad ydych yn gyfarwydd â’r sîn roc Gymraeg cewch gyfle i brofi rhywfaint arno yma.

Y Cymric

Mae’r Cymric yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer aelodau UMCB. Bydd cyd-drefnwyr y Cymric yn trefnu bob math o ddigwyddiadau dros y flwyddyn, gan gynnwys crôls tafarn, nosweithiau yn y Glôb a’r Trip Pentre’ Bach enwog. Traddodiad blynyddol yw hwn pan fo’r Cymric yn trefnu trafnidiaeth i bentref dirgel, ac mae pawb sy’n dod yn mwynhau noson o hwyl ac yn rhoi sioc i’r trigolion! Mae’r Cymric hefyd yn cynorthwyo gyda threfnu’r daith rygbi flynyddol. Pob blwyddyn mae UMCB yn trefnu taith i un o’r dinasoedd lle mae Cymru yn chwarae gêm oddi cartref ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Eleni i Iwerddon fyddwn ni’n mynd.

Tîm Pêl-droed UMCB

Mae Tîm Pêl-droed UMCB yn chwarae yng Nghynghrair Gogledd Gwynedd ac Ynys Môn ac yn cael ei noddi yn ffyddlon gan Dafarn y Glôb.  Mae yna hefyd ddigon o gyfle i chwarae yn erbyn timau eraill yn y brifysgol.

Côr UMCB

Mae Côr UMCB yn cystadlu a chymryd rhan mewn amryw o ddigwyddiadau a chystadlaethau. Yr Eisteddfod Rhyng-golegol yw uchafbwynt y flwyddyn i’r côr.  Mae’n gyfle gwych i gael hwyl, cymdeithasu, a mwynhau ychydig o ganu swynol.

Cymdeithas Llywelyn

Mae UMCB yn falch iawn o gael aelodau Cymdeithas Llywelyn yn eu mysg. Cymdeithas i ddysgwyr Cymraeg yw hon ac mae’n gwneud llawer er mwyn hybu dysgu a chefnogi aelodau wrth iddyn nhw ddysgu Cymraeg. Mae’r gymdeithas yn cynnig gwybodaeth am gyrsiau yn yr ardal yn ogystal â chasgliad o lyfrau sy’n addas i ddysgwyr. Gall yr aelodau fenthyg y rhain am ddim. Mae’r gymdeithas yn rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer gyda’i gilydd mewn sefyllfa gymdeithasol yn ogystal â dod â’r dysgwyr a Chymry Cymraeg rhugl at ei gilydd. Am fwy o wybodaeth neu i ymaelodi e-bostiwch llywelyn@undeb.bangor.ac.uk neu dewch i weld Bethan (Lywydd UMCB).

Timau chwaraeon eraill

Mae’n rhwydd iawn i UMCB gychwyn timau mewn chwaraeon eraill. Mae yna lawer o ddiddordeb mewn cychwyn tîm rygbi yn ogystal â thimau pêl droed a rygbi merched. Os hoffech weld UMCB yn cychwyn tîm mewn unrhyw gamp dewch i weld Llywydd UMCB ac fe wnawn ni’n gorau.

Y Ddraenen

Dyma gylchgrawn Cymraeg y brifysgol, mae’n cael ei gyhoeddi rhyw bedair gwaith y flwyddyn. Eleni Gwennan Evans sydd wrth y llyw.

FfORC

Ffurfiodd y grŵp fel cymdeithas ffurfiol o fewn yr Undeb yn Hydref 2006. Prif amcan y gymdeithas yw i hwyluso cyfleoedd i ôl-raddedigion cyfrwng Cymraeg gymdeithasu a chyfarfod myfyrwyr o wahanol adrannau. Maent yn gymdeithas brysur iawn, dros y flwyddyn diwethaf maent wedi bod ar drip i Ddulyn, wedi cynnal cwisiau a thrip i Ynys Enlli. Yn ogystal maent yn cyfarfod bob prynhawn Iau yn yr Undeb am ginio am 1 o’r gloch.

Ewch ar eu tudalen MySpace i gael hanesion diweddaraf y criw.