Student Volunteering Bangor (SVB) is a department within the Students’ Union which has over 500 members, 250 of which volunteer on a regular basis. SVB volunteers currently work for over 431 hours each week which promotes a close relationship between the university and the local community.
SVB has a vision that it should be commonplace for students to volunteer whilst they are at university and that the Students’ Union should do everything they can to support, promote and develop student volunteering. That is why SVB’s main aim is to assist students to lead their own, community based volunteering projects and provide student volunteers with the support and training they need to do so.
If you think you could volunteer on one of our projects, or are interested in setting up your own, join our mailing list to register your interest. You will then receive regular emails to notify you when new volunteering opportunities becomes available.
To find out more about our work, our opportunities and how to get involved you can also email us, visit us at the SVB office on the second floor of the Students’ Union building or download our leaflet – I’d Like to Volunteer.
Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) yn adran o fewn Undeb y Myfyrwyr sydd â thros 500 o aelodau, gyda 250 ohonynt yn gwirfoddoli ar sail reolaidd. Mae gwirfoddolwyr GMB ar hyn o bryd yn gweithio am dros 431 o oriau bob wythnos sy’n hyrwyddo perthynas agos rhwng y brifysgol a’r gymuned leol.
Mae gan GMB y weledigaeth y dylai fod yn beth cyffredin i fyfyrwyr wirfoddoli yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol ac y dylai Undeb y Myfyrwyr wneud popeth y gall i gefnogi, hyrwyddo a datblygu gwirfoddoli myfyrwyr. Dyna pam mai prif nod GMB yw cynorthwyo myfyrwyr i arwain eu prosiectau eu hunain o fewn y gymuned a darparu myfyrwyr sy’n gwirfoddoli â’r gefnogaeth a’r hyfforddiant y maent ei angen i wneud hynny.
Os ydych chi’n credu y gallech chi wirfoddoli ar un o’n prosiectau, neu fod gennych ddiddordeb mewn sefydlu eich prosiect eich hun, ymunwch â’n rhestr ohebu. Fe fyddwch yn derbyn e-byst rheolaidd i’ch hysbysu chi pan fo cyfleoedd gwirfoddoli newydd ar gael.
I ganfod mwy am ein gwaith, ein cyfleoedd a sut i gymryd rhan fe allwch hefyd anfon e-bost atom, ymweld â ni yn swyddfa GMB ar ail lawr adeilad Undeb y Myfyrwyr neu lawrlwytho ein taflen – Hoffwn i Wirfoddoli.