Societies Awards 2008

Hi,

This year’s Societies Awards take place on Friday 25 April in Bangor City Rugby Club. The Awards celebrate the work done this year in our various societies and are split into two categories: individual awards and group awards.

The Awards are based entirely on your nominations, so if a society or individual is not nominated for anything they will not win any awards. You cannot nominate yourself for an individual award but you can nominate your own society for a group award.

There are two types of individual awards, gold and silver (similar in concept to the full and half colours awarded by the Athletic Union). Gold Awards shall be granted to nominees who have

Silver Awards shall be granted to nominees who have

Nominees must be proposed and seconded on the attached individual nomination form, with a detailed explanation of why the nominee deserves an award. This year the decision on whether to give gold or silver to a nominee will rest with the Societies Awards Committee.

There are ten Group Awards to choose from (see attached sheet for details). Again, the nominated society must be proposed and seconded on the attached group nomination form, marking clearly which award the society is being recommended for. Societies can be entered for as many awards as you like, although separate nomination forms must be completed for each category.

I cannot stress how important it is that you fill in the nomination form thoroughly: in many cases members of the Societies Awards Committee will have no prior knowledge of the individual or group you are nominating, so be as detailed as possible.

Please distribute these forms to your members, not just your committee, to give everyone the chance to nominate the individual or group they feel deserves an award.

Nominations must be returned to me by email or in person before 5pm on Tuesday 22nd April.

Good luck!
Carolan



Gwobrau’r Cymdeithasau 2008

Helo,

Bydd Noson Wobrwyo’r Cymdeithasau eleni’n cael ei chynnal ar nos Wener 25 Ebrill yng Nghlwb Rygbi Dinas Bangor. Mae’r Gwobrau’n ddathliad o’r gwaith sydd wedi cael ei gyflawni eleni gan ein gwahanol gymdeithasau ac maent wedi’u rhannu’n ddau gategori: gwobrau unigol a gwobrau grŵp.

Mae’r Gwobrau wedi’u seilio’n llwyr ar eich enwebiadau chi, felly os nad yw cymdeithas neu unigolyn yn cael eu henwebu ar gyfer unrhyw beth ni fyddant yn ennill unrhyw wobrau. Ni allwch enwebu eich hun ar gyfer gwobr unigol ond fe allwch enwebu eich cymdeithas eich hun ar gyfer gwobr grŵp.

Mae yna ddau fath o wobr unigol, aur ac arian (yn debyg o ran syniad i’r lliwiau llawn a hanner lliwiau gan yr Undeb Athletau). Caiff Gwobrau Aur eu cyflwyno i enwebeion sydd wedi

Caiff Gwobrau Arian eu cyflwyno i enwebeion sydd wedi

Rhaid i enwebeion gael eu cynnig a’u heilio ar y ffurflen enwebu unigol gysylltiedig, gydag esboniad manwl ynghylch pam fod yr enwebai’n haeddu’r wobr. Eleni Pwyllgor Gwobrwyo’r Cymdeithasau fydd yn penderfynu p’un ai i draddodi aur neu arian i enwebai.

Mae yna ddeg Gwobr Grŵp i ddewis ohonynt (gwelwch y daflen gysylltiedig am fanylion). Unwaith eto, rhaid i’r gymdeithas enwebedig gael ei chynnig a’i heilio ar y ffurflen enwebu grŵp gysylltiedig, gan nodi’n glir pa wobr mae’r gymdeithas yn cael ei hargymell ar ei chyfer. Gellir cynnig cymdeithasau am gymaint o wobrau ag y mynnwch, er bod angen cwblhau ffurflenni enwebu ar wahân ar gyfer pob categori.

Mae’n hollbwysig eich bod yn llenwi’r ffurflen enwebu’n fanwl: mewn llawer o achosion ni fydd gan aelodau Pwyllgor Gwobrwyo’r Cymdeithasau unrhyw wybodaeth flaenorol am yr unigolyn neu’r grŵp y byddwch yn eu henwebu, felly byddwch mor fanwl â phosib.

Dosberthwch y ffurflenni hyn i’ch aelodau os gwelwch yn dda, nid dim ond i’r aelodau pwyllgor, er mwyn rhoi’r cyfle i bawb enwebu’r unigolyn neu’r grŵp maent yn teimlo sy’n haeddu gwobr.

Rhaid i enwebiadau gael eu dychwelyd drwy e-bost neu’n bersonol cyn 5yh ar ddydd Mawrth 22 Ebrill.

Pob lwc!

Carolan