The Sabbatical Elections will begin in February 2012. Nominations open for candidates on February 10th and you will have the opportunity to elect your student representatives in March.
Sabbatical officers (‘sabbs’) are current students elected to run your students’ union for a year (July – July) to make sure that the SU is run according to the wishes of the students here in Bangor. This is a one year paid position, with two years being the maximum amount of time anyone can do it for. Every year, by law, the Students’ Union has to organise a poll of its membership to select next year’s sabbs.
Any current, registered, Bangor student can put themselves forward to stand in the election.
Yes, you. You could stand for election. Think about it… You.
Speaking on behalf of 10,000 students.
Taking up their issues and concerns from the quality of feedback on an essay, organising sporting, charitable and student-led activities, even discussing the cost of going to Uni in the first place.
How brilliant would that be?
The next brilliant thing about it is that there are four different positions available, each appealing to different interests and skills:
The hours are long and the job is varied. You will be expected to be advocates of students’ rights, project leaders, event planners, co-ordinators of a staff team, figureheads of student opinion, organisers of a host of activities, charity trustees, budget holders, and ambassadors from the student body to the University and the wider community. (You may even have time for a social life, but it‘s doubtful.)
If that sounds like a lot… don’t panic because you’ll have a team of staff to help you and there’s lots of training and development opportunities available.
As a team, Sabbaticals are responsible and held accountable for the entire Union. They make day-to-day decisions about all levels of your Union’s activities. Specifically, you will:
Having said all that, being a sabb is fun, it’s creative and great experience. It’s also your chance to contribute to your student community, to create something that will last long after you’ve moved on from Bangor.
Sabbatical positions are full time paid positions at the Union. Any student at Bangor University can stand, whether you’re a first year, midway through your course or in your final year. The Sabbatical year of office will begin in late June or early July 2012, so you’ll need to take a year out of your studies or stay in Bangor for a year after you complete your course. This opportunity is open to international students but you may need to get some advice on your visa before you put your name forward.
Have a think about whether you’d be interested, do you have the skills, experience, ideas and creativity to be the next student leader? You don’t have to make your mind up today as the election process will start in February, so look out for the publicity, and the election itself will take place in March. Keep an eye on bangorstudents.com as more information will be available there as we get closer to voting.
Think about it, next year will be an exciting year and you could be a huge part of that.
For more information, come into the Students’ Union and talk to the current sabbaticals, look out for election information sessions or e-mail rhys.dart@undeb.bangor.ac.uk
In addition to the four positions named above, the President of the Welsh-speaking Students’ Union (UMCB) will be elected by UMCB members to become the fifth member of the sabbatical team. If you’d like to stand in that election, or would like to make sure you have a vote, you need to be an UMCB member – to join UMCB e-mail its current President, Mair Rowlands : mair.rowlands@undeb.bangor.ac.uk
Bydd yr Etholiadau Sabothol yn dechrau ym mis Chwefror 2012. Bydd enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr yn agor ar 10 Chwefror ac fe gewch y cyfle i ethol eich cynrychiolwyr myfyrwyr ym mis Mawrth.
Mae swyddogion sabothol yn fyfyrwyr a etholir i redeg eich undeb myfyrwyr am flwyddyn (Gorffennaf – Gorffennaf) er mwyn sicrhau bod yr UM yn cael ei redeg yn unol â dymuniadau’r myfyrwyr yma ym Mangor. Mae’r rhain yn swyddi cyflogedig am un flwyddyn – dwy flynedd yw’r cyfnod hiraf y gall unrhyw un fod mewn swydd. Bob blwyddyn, yn unol â’r gyfraith, rhaid i Undeb y Myfyrwyr drefnu pleidlais ymhlith ei aelodaeth i ddewis y swyddogion sabothol ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Gall unrhyw un sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr cofrestredig ym Mangor gynnig eu hunain fel ymgeisydd yn yr etholiadau.
Ie, chi. Gallech chi sefyll yn yr etholiadau. Meddyliwch am y peth… Chi.
A siarad ar ran 10,000 o fyfyrwyr.
Gweithredu ar y materion hynny sydd o bwys iddyn nhw ac sy’n peri pryder iddynt, yn amrywio o sylwadau academaidd ar draethawd, trefnu chwaraeon, gweithgareddau elusennol a rhai wedi’u harwain gan fyfyrwyr, a hyd yn oed trafod y gost o fynd i’r brifysgol yn y lle cyntaf.
Pa mor anhygoel fyddai hynny?
Y peth nesaf gwych am hyn yw’r ffaith fod yna bedair swydd wahanol ar gael, pob un ohonynt yn apelio at wahanol ddiddordebau a sgiliau:
Mae’r oriau’n hir ac mae’r gwaith yn amrywiol. Bydd disgwyl i chi fod yn eiriolwr ar ran hawliau myfyrwyr, yn arweinydd prosiectau, cynlluniwr digwyddiadau, cydlynydd tîm staff, yn gynrychiolydd safbwyntiau myfyrwyr, yn drefnydd llu o ddigwyddiadau, yn ymddiriedolwr elusen, yn ddeiliad cyllideb ac yn llysgennad ar ran y corff myfyrwyr i’r Brifysgol a’r gymuned ehangach.
(Mae hyd yn oed yn bosib bydd gennych chi amser am fywyd cymdeithasol, ond mae hynny’n annhebygol.)
Os ydy hynny’n swnio’n gryn dipyn… peidiwch â chael braw oherwydd bydd gennych dîm o staff i’ch helpu chi ac mae yna ddigonedd o gyfleoedd ar gael ar gyfer hyfforddiant a datblygiad.
Fel tîm, mae’r Swyddogion Sabothol yn gyfrifol dros yr Undeb gyfan, ac yn atebol iddo. Maent yn gwneud y penderfyniadau o ddydd i ddydd ynglŷn â phob lefel o weithgaredd yn eich undeb. Yn benodol, byddwch:
Wedi dweud hynny i gyd, mae bod yn swyddog sabothol yn ddifyr, yn greadigol ac yn brofiad gwych. Mae hefyd yn gyfle i chi wneud cyfraniad i’ch cymuned myfyrwyr ac i greu rhywbeth a fydd yn parhau am flynyddoedd ar ôl i chi symud ymlaen o Fangor.
Mae swyddi sabothol yn swyddi cyflogedig, llawn-amser yn yr Undeb. Gall unrhyw fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor sefyll amdanynt, p’un ai eich bod yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf, hanner ffordd drwy’r cwrs, neu yn eich blwyddyn olaf. Mae’r flwyddyn sabothol yn dechrau ddiwedd Mehefin / dechrau Gorffennaf 2012, felly bydd angen i chi gymryd blwyddyn i ffwrdd o’ch cwrs academaidd neu aros ym Mangor am flwyddyn ychwanegol ar ôl i chi orffen eich cwrs. Mae’r cyfle hwn ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol ond efallai y bydd angen i chi gael cyngor ynghylch eich fisa cyn i chi roi eich enw ymlaen.
Meddyliwch am p’un ai y gallai hyn fod o ddiddordeb i chi, a oes gennych chi’r sgiliau, syniadau a chreadigrwydd i fod yr arweinydd myfyrwyr nesaf? ’Does dim rhaid i chi benderfynu heddiw gan mai ym mis Chwefror y bydd y broses etholiadau’n cychwyn, felly cadwch lygad am y cyhoeddusrwydd a bydd yr etholiad ei hun yn cael ei gynnal fis Mawrth. Cadwch lygad ar myfyrwyrbangor.com – bydd mwy o wybodaeth yn ymddangos wrth i ni agosáu at y cyfnod pleidleisio.
Meddyliwch am y peth; bydd blwyddyn nesaf yn flwyddyn gyffrous ac fe allech chi fod yn rhan fawr o hynny.
Am fwy o wybodaeth, dewch i Undeb y Myfyrwyr i gael sgwrs gyda’r swyddogion sabothol presennol, cadwch lygad am sesiynau gwybodaeth etholiad neu anfonwch e-bost at rhys.dart@undeb.bangor.ac.uk
Yn ychwanegol i’r pedair swydd a enwir uchod, caiff Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) ei ethol gan aelodau UMCB yn bumed aelod o’r tîm sabothol. Os yr hoffech chi sefyll yn yr etholiad hwnnw, neu’r hoffech chi wneud yn siŵr bod gennych chi bleidlais, mae’n rhaid i chi fod yn aelod o UMCB. Er mwyn ymuno ag UMCB, anfonwch e-bost at y Llywydd presennol, Mair Rowlands: mair.rowlands@undeb.bangor.ac.uk